Gweithredwch er mwyn sicrhau bod bwyd yn fwy diogel ar gyfer defnyddwyr

Mae bywydau defnyddwyr mewn perygl oherwydd nad yw’r gyfraith yn glir ynghylch a gaiff busnesau bwyd ddefnyddio’r un offer ar gyfer paratoi bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta. Yn 1996 yn yr Alban bu farw 21 o bobl ac yn 2005 yn Ne Cymru, bu farw Mason Jones, 5 oed, o’r haint E.coli O157 oherwydd roedd offer a ddefnyddiwyd ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd barod i’w bwyta heb ei lanhau’n iawn.

O ganlyniad, Llais Defnyddwyr Cymru sydd wedi arwain ein ymgyrch i sicrhau bod busnesau’n defnyddio offer ar wahân ar gyfer cig amrwd a chig sy’n barod i’w bwyta - yn enwedig peiriannau cymhleth sy’n anodd eu glanhau megis offer sêl bacio, peiriannau minsio a thafellu - yn osgoi croeshalogi, yn lleihau clefydau a gludir mewn bwyd ac yn achub bywydau.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gofyn am farn pobl am ganllawiau drafft newydd i esbonio’n glir wrth fusnesau bwyd bod yn rhaid iddynt sicrhau eu bod yn trin bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta ar wahân cyn belled ag sy’n bosib yn ymarferol. Lle bynnag rydych yn byw yn y DU, mae’n hynod bwysig bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn clywed eich barn am y mater hwn.Os ydych chi’n cytuno â ni, dywedwch wrthyn nhw am gyhoeddi’r canllawiau hyn ac i roi rhybuddion clir i fusnesau hefyd ynghylch beth fydd yn digwydd os na fyddant yn cydymffurfio.

Llenwch y ffurflen isod i gymryd rhan yn y gweithredu hyn. Mae pob maes sydd wedi’i farcio â * yn orfodol. Pan fyddwch yn cyflwyno’r dudalen byddwch yn gallu adolygu’ch llythyr cyn ei anfon.